Ymchwil Iechyd Menywod Cymru
Pwy ydyn ni
Mae Ymchwil Iechyd Menywod Cymru yn ganolfan ymchwil ar gyfer Cymru gyfan, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n ei hariannu. Ein cenhadaeth yw cael gwared ar anghydraddoldebau o ran iechyd a lles merched, menywod a phobl a bennwyd yn fenywaidd adeg eu geni.
Pam mae'n bwysig buddsoddi mewn iechyd menywod?
Mae diffyg ymchwil ac adnoddau ym maes iechyd menywod yn broblem barhaus, ac mae’n arwain at ansawdd bywyd a deilliannau iechyd gwaeth i fenywod. O'u cymharu â dynion, mae menywod yng Nghymru yn fwy tebygol o ddioddef poen difrifol a byw llai o flynyddoedd iach, heb anabledd, er eu bod yn byw'n hirach na dynion. Mae potensial mawr i arloesi ym maes iechyd menywod. Fodd bynnag, nid yw'r potensial hwn yn cael ei wireddu gan nad oes digon o gyfleoedd a lle i bartneriaethau academaidd-diwydiannol gydweithio.
Sut y cyrhaeddon ni’r sefyllfa bresennol:
- Diffyg buddsoddiad parhaus mewn ymchwil iechyd menywod o'i gymharu â baich clefydau
- Diffyg cynrychiolaeth barhaus gan fenywod mewn treialon clinigol, cyfosodiadau tystiolaeth, gwerthusiadau economaidd
- Meysydd sy’n gorgyffwrdd lle mae menywod yn wynebu anghydraddoldeb parhaus (e.e. ethnigrwydd, anabledd, tlodi mewn gwaith)
- Canolfannau ymchwil yn ystyried iechyd menywod fel pwnc eilaidd yn barhaus
- Iechyd menywod yn cael ei ystyried yn barhaus naill ai fel pwnc sy’n ymwneud ag atgenhedlu yn unig neu fel pwnc eilaidd a llai pwysig mewn canolfannau ymchwil yn hytrach na fel hanfod y ganolfan ymchwil
Sut gall y wefan hon eich helpu chi?
Pan fydd ymchwil yn cynnwys pobl o lawer o gefndiroedd, gall arwain at ganfod gwybodaeth sy'n adlewyrchu realiti pob person a'u bywydau'n well. Gall cynnwys cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil iechyd menywod wella dealltwriaeth o brofiadau, anghenion, heriau a blaenoriaethau iechyd pobl. Ar ben hynny, gall helpu ymdrechion i gael diagnosis, triniaeth ac adnoddau iechyd gwell nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Women’s Health Research Wales is a catalytic research centre, with collaboration opportunities, funding for women’s health research, and access to research networks and data. Our work spans four priority themes that underpin the 10 Year Women’s Health Plan. Learn more about our ongoing and past research and see if there’s an option to get involved.
Research has shown that investment in female-specific health areas like obstetrics and gynaecology pays off. So, imagine if that investment went across all aspects of health research, including life-long conditions such as autoimmune disorders. Investment in women’s health is an investment in the overall health and wellbeing of your community, and with tangible results.
Ymchwil Iechyd Menywod Cymru
Ein gweledigaeth yw cael gwared ar anghydraddoldebau yn iechyd a llesiant merched, menywod, a phobl a bennwyd yn fenywaidd adeg eu geni.