Rydym yn ganolfan ymchwil ar gyfer Cymru gyfan sy'n ymroddedig i iechyd, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n ein hariannu.
Gwella iechyd a lles menywod a llais menywod fydd yn gyrru gwaith Ymchwil Iechyd Menywod Cymru.
Ein Nodau:
Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn cataleiddio ac yn rhoi hwb i ymdrechion ar draws Cymru yn y pum maes hyn:
Bydd ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedwar maes thematig:
Risg a chymedroli clefydau, gan gynnwys trawsnewidiadau biolegol, sgrinio ac atal i wella iechyd menywod a sicrhau trawsnewidiadau iachus.
Rheoli cyflyrau iechyd sy’n effeithio’n unigryw neu'n anghymesur ar fenywod na ellir eu hatal ond y gellir eu rheoli.
Effeithiau rhyw a rhywedd mewn clefydau prin a chyflyrau a gaiff eu stigmateiddio gan nad ydynt yn deall y rhain yn iawn o'u cymharu â chyflyrau eraill.
Croestoriad o hunaniaethau cymdeithasol a sut maen nhw’n cymedroli achosion, amlygiad a dilyniant clefydau, a mynediad ac ymateb i ofal iechyd.