Trawsnewidiadau Iechyd/Iachus
Mae’r thema Trawsnewidiadau Iechyd/Iachus, a arweinir gan Dr Alison Cooper o Brifysgol Caerdydd Dr Natalie Brown o Brifysgol Abertawe, yn edrych yn fanylach ar y trawsnewidiadau amrywiol yn ystod bywyd person a’r ffordd y mae iechyd a lles yn cael eu heffeithio.
O fabandod i fod yn oedolyn, mae menywod yn profi cyfres o drawsnewidiadau o ran atgenhedlu, a thrawsnewidiadau nad ydyn nhw yn ymwneud ag atgenhedlu. Mae’r trawsnewidiadau hyn yn cynnwys popeth, o’r newidiadau sy’n digwydd yn ystod y glasoed a dechrau mislif, i’r newidiadau ym myd addysg o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Bydd Trawsnewidiadau Iechyd/Iachus yn canolbwyntio ar drawsnewidiadau allweddol o safbwynt atgenhedlu a safbwynt nad ydyn nhw’n ymwneud ag atgenhedlu. Ar hyn o bryd, mae’r ffocws ar dri phrif faes: addysg iechyd menywod, modelau gofal iechyd, a gweithgarwch corfforol fel strategaeth atal yn ystod bywyd.

Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig?
Drwy roi’r trawsnewidiadau yng nghyd-destun bywyd iach, nod y thema yw cynnwys y trawsnewidiadau mewn strategaethau ataliol i wella deilliannau iechyd i fenywod, merched, a phobl a bennwyd yn fenywod adeg eu geni. Byddan nhw hefyd yn ceisio mynd i’r afael â rhwystrau mewn llythrennedd iechyd er mwyn i addysg iechyd fod yn fwy hygyrch ym mhob cyfnod bywyd.
Nodau ac Amcanion
Mae gan y thema bedwar prif amcan y mae’n anelu at fynd i’r afael â nhw. Nod yr amcan cyntaf yw deall yr anghenion sydd heb eu diwallu, risgiau a chymedrolwyr iechyd menywod yn ystod trawsnewidiadau allweddol er mwyn manteisio i’r eithaf ar fentrau sy’n canolbwyntio ar atal.
Yr ail amcan yw datblygu ymarfer sy’n seiliedig ar theori wrth greu offer mesur ac ataliol i gefnogi menywod yn well drwy gydol eu hoes. Y trydydd amcan yw datblygu a gwerthuso ymyriadau ac addysg i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo iechyd.
Y pedwerydd amcan yw cynnwys y canfyddiadau a’r arferion ataliol mewn polisïau, ymarfer a systemau i newid a gwella iechyd menywod yn ystod pob trawsnewidiad.
I gloi
Wrth wneud hynny, ynghyd â’r ffocws ar lythrennedd iechyd menywod, y nod yw creu dull cydlynol sydd wedi’i gynllunio i addasu i anghenion newidiol iechyd a lles yn ystod pob trawsnewidiad allweddol a phob cam bywyd.
![]() |
![]() |
| Dr Alison Cooper | Dr NatalieBrown |

