Am gyngor neu driniaeth feddygol, ewch i wefan GIG Cymru.

Uwchgynhadledd Weinidogol Iechyd Menywod

Published: Dydd Mercher Gorffennaf 29, 2026

Ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf, ymunodd aelodau o dîm Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (YIMC) ag Uwchgynhadledd Weinidogol Iechyd Menywod. Daeth y gynhadledd â chymysgedd o bobl o bob rhan o Gymru a gwasanaethau gofal iechyd ynghyd, gan gynnwys cleifion, ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a llunwyr polisïau.

A woman with blonde hair in a messy bun stands behind a podium speaking into a microphone. She is wearing a black dress with red patterns, and is positioned in front of a cabinet full of books.
Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health of Wales speaks at the Women’s Health Ministerial Summit.

Cynhaliwyd y gynhadledd gan Ddirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod Cymru, Delyth Jewell. Roedd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth hefyd yn bresennol. Gwahoddwyd Dr Alison Cooper i gynrychioli Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (YIMC), ochr yn ochr â FTWW:  Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, ein cyd-arweinydd Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd (PPIE) yn y trydydd sector.

Canolbwyntiodd y siaradwyr yn y bore ar y pwnc o normaleiddio poen menywod ym maes gofal iechyd ac yn ystod triniaethau meddygol. Siaradodd gwirfoddolwyr o FTWW am bwysigrwydd gwrando ar lais y claf i ymdrin â phoen yn ystod triniaethau. Trafodwyd sut y gall y cysylltiad rhwng poen a thriniaethau meddygol achosi trawma meddygol ac arwain at gleifion yn hepgor gofal meddygol angenrheidiol.

Yn y prynhawn, bu’r siaradwyr yn trafod pwysigrwydd cyd-gynhyrchu a chynnwys lleisiau cleifion. Trafododd FTWW gynnwys lleisiau menywod wrth gynllunio gwasanaethau, a sicrhau bod y lleisiau hynny wedi’u hymgorffori ym mhob cam o ddatblygu’r gwasanaeth, o’r cychwyn hyd at y cyfnodau cyflwyno a gwerthuso.

A tall middle-aged man in a grey suit, light blue shirt and teal blue tie is standing on the left of the photo holding out his left hand towards two women. The woman in the middle has brown curly hair and is wearing a white shawl over a patterend floral dress with a black handbag, and the woman on the right has light brown hair and is wearing a floral-patterned dress. All three are talking.
First Minister Rhun ap Iorwerth speaks with Dr Alison Cooper of WHRW and other participants at the Women’s Health Ministerial Summit

Gwnaeth y sgyrsiau dynnu sylw at yr angen am ofal mwy teg ac ymyrraeth gynnar, yn enwedig o ran atal poen. Amlygodd pwyntiau allweddol eraill y diffyg ffocws ar iechyd menywod mewn hyfforddiant nyrsio a meddygol, a sut y gellid mynd i’r afael â hynny.

Cadarnhaodd yr uwchgynhadledd ymrwymiad i Gynllun Iechyd Menywod Cymru, gan roi blaenoriaeth i gynnwys lleisiau menywod yn y camau nesaf. Bydd ffocws parhaus ar ddealltwriaeth well na ddylid ystyried poen yn “normal” nac yn “dderbyniol” wrth drin menywod, ac ar sut i fynd i’r afael â’r diffyg hyfforddiant meddygol sy’n benodol i iechyd menywod.

Drwy gydol y digwyddiad, tynnodd Dr Alison Cooper a staff FTWW sylw at ymroddiad YIMC i gydweithio â chleifion, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a rhanddeiliaid eraill yn ein gwaith ymchwil, er budd menywod Cymru a thu hwnt.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd fersiynau pellach o’r digwyddiad yn tynnu sylw at lwyddiannau’r sgyrsiau a gynhaliwyd eleni, ac at y rôl y gall ymchwil ac arloesi ei chwarae wrth droi dyheadau yn realiti.

Img 7990
Women’s Health Ministerial Summit
cyWelsh