Cyfleoedd cyffrous i gymryd rhan yng ngwaith Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod newydd Cymru!
Mae Ymchwil Iechyd Menywod Cymru yn recriwtio aelodau cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd a chleifion ar gyfer dau grŵp:
(1) Grŵp Cynghori Mewnol (chwe aelod)
(2) Bwrdd Ymgynghorol Allanol Cyffredinol (dau aelod)

Bydd aelodau’r ddau grŵp yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod amrywiol o unigolion, gan gynnwys ymchwilwyr, clinigwyr, llunwyr polisi, ac aelodau eraill o’r cyhoedd. Bydd hyn yn cefnogi cyfranogiad ystyrlon a chynhwysol gan gleifion a’r cyhoedd ar draws rhaglen waith Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, gan sicrhau bod cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd a chleifion wedi ei wreiddio’n llawn mewn ymchwil iechyd menywod yng Nghymru.
Byddwch yn helpu i gryfhau gwelededd a llais Ymchwil Iechyd Menywod Cymru ledled Cymru, gan gynnwys ymhlith grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n llawn, ac sydd wedi eu hymylu, a sicrhau bod y ganolfan yn atebol i’r cyhoedd a’i harianwyr.
Mae’r rolau hyn yn cynnig cyfle gwych i gyfrannu at ymchwil iechyd menywod, dylanwadu ar benderfyniadau strategol, a chwarae rhan weithredol wrth lunio cyfranogiad ystyrlon gan gleifion a’r cyhoedd o fewn amgylchedd cefnogol a chydweithredol.
Aelodau Grŵp Ymgynghorol Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chleifion Ymchwil Iechyd Menywod Cymru
Hanfodol
- Brwdfrydedd dros wella profiadau a chanlyniadau iechyd menywod, merched, ac unigolion a bennwyd yn fenywod adeg geni
- Yr amser a’r gallu i gyfrannu at gyfarfodydd rheolaidd ar-lein ac, o bryd i’w gilydd, wyneb yn wyneb
- Y gallu (gyda chymorth cynorthwyydd personol / gofalwr os yw’n berthnasol) i ddarllen a chyfrannu mewnwelediadau a safbwyntiau ar amrywiol ddogfennau a chynlluniau strategol
- Rhwydweithiau a chysylltiadau da / cryf â chymunedau dan anfantais yng Nghymru
- Yn eiriolwr hyderus a gwybodus dros safbwyntiau ac anghenion grwpiau / unigolion sydd wedi eu hymylu
- Yn gweithio’n effeithiol ac ar y cyd ag eraill, ac yn meddu ar sgiliau gwrando a chyfathrebu da
Dymunol
- Wedi cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil yn flaenorol, boed fel cyfrannwr cyhoeddus neu wrth hwyluso cyfranogiad unigolion eraill
- Dealltwriaeth gref o’r hyn y mae cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd a chleifion effeithiol yn ei olygu, gan gynnwys cydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant, hygyrchedd, cyfathrebu, bod â natur agored, a sensitifrwydd i anghenion a phrofiadau gwahanol unigolion
- Profiad blaenorol o ddylunio / cyflwyno gweithgareddau cyfathrebu, ymgysylltu, neu allgymorth
- Yn drefnus ac yn gallu gweithio i derfynau amser
- Cyfathrebwr hyderus, yn hapus i ymgymryd â siarad cyhoeddus neu gyfweliadau yn y cyfryngau (er ar ôl paratoad a hyfforddiant yn ôl yr angen)
- Profiad o ddatblygu hyfforddiant a’i gyflwyno
Aelodau annibynnol cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd a chleifion Bwrdd Ymgynghorol Allanol Ymchwil Iechyd Menywod Cymru
Hanfodol
- Brwdfrydedd dros wella profiadau a chanlyniadau iechyd menywod, merched, ac unigolion a bennwyd yn fenywod adeg geni
- Yr amser a’r gallu i gyfrannu at gyfarfodydd rheolaidd ar-lein ac, o bryd i’w gilydd, wyneb yn wyneb
- Y gallu (gyda chymorth cynorthwyydd personol / gofalwr os yw’n berthnasol) i ddarllen a chyfrannu mewnwelediadau a safbwyntiau ar amrywiol ddogfennau a chynlluniau strategol
- Yn gweithio’n effeithiol ac ar y cyd â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol / arweinwyr sector (gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y GIG, arweinwyr busnes ac ati), gyda sgiliau gwrando da a chyfathrebu cryf
- Yn eiriolwr hyderus a gwybodus dros safbwyntiau ac anghenion grwpiau / unigolion sydd wedi eu hymylu
- Yn gallu defnyddio barn gadarn a sicrhau bod Ymchwil Iechyd Menywod Cymru yn cyflawni ei weledigaeth ac yn cyrraedd amcanion, yn enwedig o ran asesu rôl / swyddogaeth / defnydd / cymorth ar gyfer cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd a chleifion drwy gydol gwaith y ganolfan.
Dymunol
- Wedi cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil yn flaenorol, boed fel cyfrannwr cyhoeddus neu wrth hwyluso cyfranogiad unigolion eraill
- Dealltwriaeth gref o’r hyn y mae cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd a chleifion effeithiol yn ei olygu, gan gynnwys cydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant, hygyrchedd, cyfathrebu, bod â natur agored, a sensitifrwydd i anghenion a phrofiadau gwahanol unigolion
- Profiad blaenorol o ddylunio / cyflwyno gweithgareddau cyfathrebu, ymgysylltu, neu allgymorth
- Yn drefnus ac yn gallu gweithio i derfynau amser
- Profiad blaenorol mewn rôl arweinyddiaeth – gallai hyn gynnwys arwain ymgyrch neu sefydliad ar lawr gwlad, neu gadeirio cyfarfodydd neu grwpiau
- Ymwybyddiaeth o beth yw natur llywodraethu da, gan gynnwys cyfathrebu mewnol, rheoli risg, adrodd ac Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweiniad)
- Cyfathrebwr hyderus, yn hapus i ymgymryd â siarad cyhoeddus neu gyfweliadau yn y cyfryngau (er ar ôl paratoad a hyfforddiant yn ôl yr angen)
- Profiad o ddatblygu hyfforddiant a’i gyflwyno